Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Dod o hyd i wybodaeth am gwmni |
|||
| Pa wasanaeth bynnag y penderfynwch ei ddefnyddio i brynu gwybodaeth
am gwmnïau, cofiwch fod modd bob amser gyrchu’n mynegai o enwau a chyfeiriadau cwmnïau yn rhad ac am ddim drwy glicio’r cyswllt yma |
|||
WebCHeckMae gwasanaeth WebCHeck yn cynnig mynegai o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau y gellir ei chwilio yn rhad ac am ddim, gan eich galluogi i geisio gwybodaeth am dros 2 miliwn o gwmnïau. Gellir chwilio cwmni unigol naill ai drwy ddefnyddio'i enw neu ei rif cofrestru unigryw. Yn ychwanegol at y manylion cwmni rhad ac am ddim, gallwch hefyd ddefnyddio WebCHeck i brynu gwybodaeth hanes cwmnïau, gan gynnwys cyfrifon a ffurflenni blynyddol a detholiad o adroddiadau cwmni, i gyd ar-lein. Mae Monitor hefyd ar gael drwy wasanaeth WebCHeck. Bydd Monitor yn caniatáu ichi 'fonitro' cyflwyniad gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau gan unrhyw gwmni ddewiswch chi. Gellir talu drwy gerdyn credyd/debyd neu PayPal a chaiff pob cynnyrch ei drosglwyddo’n electronig i barth lawrlwytho diogel unigryw. |
|||
|
|||
MonitorGallwch gadw llygad ar unrhyw gwmni ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys eich cwmni eich hun, a 'monitro' pob rhyw wybodaeth a gafodd ei hanfon i Dŷ'r Cwmnïau drwy ddefnyddio gwasanaeth Monitor o fewn WebCHeck a Companies House Direct. Does dim rhaid ond cofrestru’ch cyfeiriad e-bost a manylion y cwmnïau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cyn gynted ag y caiff y manylion eu cofrestru a’u bod yn fyw ar y gofrestr gyhoeddus, bydd y system yn cydnabod eich diddordeb ac yn gyrru hysbysiad drwy e-bost. Gallwch wedyn benderfynu a hoffech chi archebu’r wybodaeth. Chi biau’r dewis. I gyrchu Monitor heddiw, ymwelwch â'n 'gwasanaeth talu wrth ddefnyddio' WebCHeck neu'n 'gwasanaeth tanysgrifio' Companies House Direct. |
|||
Porth XML (XML Gateway) Mae’r Porth XML yn cynnig mynediad electronig at ystod greiddiol o wybodaeth am gwmnïau o Gronfeydd Data Tŷ’r Cwmnïau. Mae modd i gwsmeriaid Porth XML awdurdodedig gyrchu’r gwasanaeth ar lein dros y rhyngrwyd. |
|||
URI (Dynodwyr Adnoddau Unigryw) cwmnïau Mae URI (Dynodwyr Adnoddau Unigryw) cwmnïau wedi cael eu datblygu i gyflenwi manylion cwmni sylfaenol am bob cwmni ar ein cofrestr. Cyfeiriad gwe unigryw sy’n cynrychioli'r cwmni (gan ddefnyddio'r parth 'business.data.gov.uk') yw'r URI; a bydd yn rhoi manylion sylfaenol ar gyfer y cwmni hwnnw. Mae datblygu Dynodwyr Adnodd Unffurf ar gyfer cwmnïau'n gyson ag agenda eglurder y llywodraeth o'i gwneud yn haws i gael data cyhoeddus; a bydd yn cynnig ffordd fwy effeithlon o gysylltu data i ddefnyddwyr a'r diwydiant gwybodaeth fusnes. |
|||
Cynhyrchir cyfarwyddiadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar (0)303 1234 500 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ. Nid yw’r cynnyrch hwn yn gytûn â chyfrifiaduron AppleMac. Rheolir y cyfeiriadur DVD Rom am chwe mis o’r dyddiad prynu, ni fydd y data ar gael i chi ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Sylwch nad yw’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfarwyddiadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1075. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000. |
|||
Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r CwmnïauCynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain, Chaeredin, a Belfast. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau. |
|||
Canolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thy’r Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud. Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu fe l e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif. |
|||
|
|
|||