|
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
|
|||
|
|
Gwasanaeth Bilio Electronig Newydd Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi lansio gwasanaeth bilio newydd ar gyfer deiliaid cyfrif credyd. Gall cwsmeriaid dderbyn datganiadau, anfonebau a nodiadau credyd yn awr yn electronig drwy ardal lawrlwytho ddiogel, yn hytrach na’u derbyn drwy’r post. Unwaith eich bod wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd, gellwch gael mynediad i’ch anfonebau a'ch datganiadau blaenorol. I gymryd mantais o’r gwasanaeth newydd hwn a chofrestru i’w ddefnyddio, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd i’r dudalen ganlynol (Saesneg yn unig): https://ebilling.companieshouse.gov.uk/register.aspx Ymhlith y cyfrifon sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn mae Companies House Direct, Online Filing ac XML Gateway. I gwblhau’r broses o gofrestru, bydd angen i chi nodi rhywfaint o wybodaeth o’ch datganiad Tŷ’r Cwmnïau diweddaraf. Bydd y system yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu eich cais. Er mwyn arbed trafferthion cofrestru, mae’n bwysig nodi y dylech gofrestru ar-lein AR ÔL derbyn eich datganiad papur diweddaraf a CHYN y diwrnod gwaith olaf o’r mis. Os ydych yn gwsmer newydd, rhaid i chi aros hyd nes eich bod yn derbyn eich datganiad cyntaf cyn cofrestru am y gwasanaeth hwn. Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru am y gwasanaeth hwn, ac o hynny ymlaen, yr unig beth fydd angen i chi ei wneud yw nodi Rhif eich Cyfrif a’ch Cyfrinair i gael mynediad at eich datganiadau, anfonebau a nodiadau credyd. Bydd y dogfenni hyn i’w gweld ar fformat PDF a hefyd bydd gennych y dewis o lawrlwytho eich trafodion diweddaraf ar fformat CSV. Bob mis byddwch yn derbyn nodyn i’ch atgoffa ar e-bost, fydd yn cynnwys cyswllt URL i’r ardal lawrlwytho ddiogel, lle gellwch gael mynediad i’ch datganiad a’ch anfoneb diweddaraf. Unwaith y byddwch wedi cofrestru a bod eich manylion wedi’u dilysu, byddwch yn derbyn e-bost oddi wrth Tŷ’r Cwmnïau i gadarnhau’r cofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru am y gwasanaeth hwn, mae’n bwysig nodi na fyddwch bellach yn derbyn datganiadau papur oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Y gwasanaeth electronig newydd hefyd fydd y dull a ddefnyddir gan bob deiliad cyfrif newydd i anfon gwybodaeth. |
||