|
Gwasanaeth PROtected Online Filing (PROOF)
I ymuno â chynllun PROOF , bydd angen yn gyntaf ichi fod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau. Unwaith eich bod wedi cofrestru a chwblhau’r broses lofnodi, ni raid ond ticio’r blwch i gadarnhau eich bod wedi derbyn yr amodau a’r telerau o dan adran 1070 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a dethol ‘ymuno â PROOF’. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i helpu cwmnïau i ddiogelu eu hunain rhag ffeilio twyllodrus, gan ei fod yn atal unigolion rhag ffeilio rhai ffurflenni ar bapur. Y ffurflenni y mae cynllun PROOF yn eu cwmpasu yw:
Unwaith eich bod wedi cofrestru o dan gynllun PROOF, fel arfer bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni hyn ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r cwmni ei hun sydd wedi cofrestru unrhyw newidiadau a wneir. Er mwyn atal dogfennau papur rhag cael eu gwrthod yn ddiangen mae’n hanfodol bod unrhyw un sydd ag awdurdod i ffeilio ar ran y cwmni yn cael gwybod am y cofrestriad PROOF. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn fersiynau papur o’r dogfennau a rhestrir uchod gan gwmnïau sy’n perthyn i’r cynllun PROOF o dan amgylchiadau eithriadol, ond dim ond pan cyflwynir ffurflen ganiatâd wedi ei hawdurdodi gan gyfarwyddwyr y cwmni ar bapur gyda nhw. Dylai’r cwmnïau sydd wedi ymuno â PROOF gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau i ofyn am gyngor cyn ffeilio unrhyw ddogfennau ar bapur Sylwer: Os oes anghydfod mewnol yn bwrw ymlaen yn eich cwmni ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gymwys i ymuno â chynllun PROOF. Ni all Tŷ’r Cwmnïau ymyrryd mewn anghydfod cwmni mewnol a rhaid i’r gwahanol ochrau geisio cyngor proffesiynol cyfreithiol annibynnol. Pan fydd y Cofrestrydd yn gwbl fodlon bod yr anghydfod mewnol wedi’i ddatrys, daw’r cwmni’n gymwys i ymuno â’r cynllun. Gwasanaeth Web Filing |
||