Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Rhestr Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2011/2012Fe welwch wedi'u rhestru isod y trefniadau agor a gwasanaethu dros wyliau’r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau
Gwasanaethau Ar-lein Bydd Companies House Direct, WebCHeck, WebFiling, Electronic Filing, Extranet ac XML Gateway ar gael fel arfer (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos) gyda’r eithriadau canlynol i'r Ddesgau Cymorth:
Cyflwyno Dogfennau Dim ond Swyddfa Caerdydd gaiff ei staffio i dderbyn dogfennau dros y gwyliau cyfan. Mae cyfleusterau blwch postio yn y swyddfeydd eraill ac eithrio Gogledd Iwerddon. Rhaid i gyfrifon gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ar neu cyn y dyddiad dyledus. Ni dderbynnir oedi cludo fel esgus dros gyflwyno hwyr, a hyd yn oed os cyflwynir cyfrifon ddiwrnod yn hwyr caiff cosb ei gosod. Dylid nodi y gellir defnyddio’r gwasanaeth WebFiling i ffeilio amrywiaeth o ddogfennau, gan gynnwys cyfrifon bach heb eu harchwilio. Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, bydd angen i chi wneud hynny. Dylech nodi y caiff cod dilysu’r cwmni, sydd ei angen arnoch er mwyn cyrchu’r gwasanaeth, ei anfon (drwy’r post) i swyddfa gofrestredig y cwmni cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’ch cais. Gadewch digon o amser i dderbyn y cod gyda golwg unrhyw oediad achos trefn bost y gwyliau. Corffori Papur, a Newid Enw Caiff pob cais a dderbynnir gan ein hadran Cwmnïau Newydd neu Copïau Ardystiedig ei brosesu fel arfer ond dymunwn roi gwybod i gwsmeriaid na allwn fod yn gyfrifol am unrhyw oedi wrth dderbyn ceisiadau oherwydd trefn bost y gwyliau. |
||||||||||||||||||||||||||||||