Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Newidiadau Pwysig i Wasanaethau Ar-lein Tŷ’r Cwmnïau Yn sgil gweithredu Deddf Cwmnïau 2006 yn derfynol ar 1 Hydref 2009, bydd rhai newidiadau i sgriniau a dull gweithio’n gwasanaethau ar-lein. I’ch helpu i ddeall beth sydd wedi newid, rhoir disgrifiadau cryno isod. Cliciwch ar y pennawd perthnasol ar gyfer y gwasanaeth sydd angen: WebFiling WebFiling – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio Mae rhifau’r ffurflenni wedi newid o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Ffurflenni Deddf Cwmnïau 2006 yw’r ffurflenni diofyn fydd ar gael drwy brif ddewislen gwasanaeth WebFiling. Bydd ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gael o dan y tab ’Hen ffurflenni’ o fewn y brif ddewislen.
Bydd trafodion ‘dyddiad y digwyddiad’ (e.e. dyddiad penodi) ar gael yn ffurflenni rhagnodedig newydd Deddf Cwmnïau 2006 (e.e. AP01) a ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 (e.e. 288a).
DIM OND yn ffurflenni newydd rhagnodedig Deddf Cwmnïau 2006 (e.e. AD01) y bydd trafodion sydd HEB ddyddiad digwyddiad (e.e. newid y swyddfa gofrestredig) ar gael; bydd ‘hen’ ffurflenni Deddf Cwmnïau 1985 ar gyfer y trafodion hyn (e.e. 287) yn dod i ddiwedd eu hoes ar 01/10/09. Gweld manylion llawn y trefniadau trosiannol ar gyfer y ffurflenni a gaiff eu ffeilio fynychaf. SYLWER: Yn wyneb y newidiadau yn sgil gweithredu Deddf Cwmnïau 2006, mae’n bwysig nodi bod rhaid i Ffurflenni Blynyddol sydd ‘Ar y Gweill’ gael eu cyflwyno erbyn canol nos ar 30 Medi 2009 – fel arall, ni chaiff yr wybodaerh hon mo’i chadw. Y manylion newydd sydd angen ar gyfer: Swyddogion cwmni Gwlad/Gwladwriaeth Breswyl – rhaid darparu hyn ar gyfer pob cyfarwyddwyr sy’n berson
Manylion cofrestru o fewn yr AEE (yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) neu’r tu allan i’r AEE – rhaid darparu hyn ar gyfer pob cyfarwyddwr ac ysgrifennydd corfforaethol yn unol â’i statws o fewn neu y tu allan i’r AEE.
Cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau O 1 Hydref 2009 ymlaen, rhaid i bob cyfarwyddwr roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am ei gyfeiriad preswyl arferol a hefyd, ar gyfer pob safle fel cyfarwyddwr a ddeil, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Cyfalaf
SAIL (Lleoliad Archwilio Amgen Unigol) Rhaid roi gwybod am y SAIL pan NAD yw’r gofrestr aelodau neu’r gofrestr ddyledebwyr wedi’i chadw yng nghyfeiriad y swyddfa gofrestredig. I roi gwybod am y cyfeiriad amgen, defnyddiwch y ffurflenni canlynol:
Sgrin fewnlofnodi Wrth fewnlofnodi, rhaid ichi ddethol y ‘Math o Gwmni’ o’r ddewislen sy’n llifo i lawr. Rhaid i hyn gyfateb i leoliad cofrestru’r cwmni yr ydych yn ffeilio ar ei gyfer.
brig
WebCHeck – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio Chwilio Cyfarwyddwyr wedi’u Gwahardd Gellir cyrchu’r Gofrestr Cyfarwyddwyr Gwaharddedig bellach o dudalen hafan WebCHeck (Dethol a Chyrchu Gwybodaeth Gwmni). Y diwyg newydd ar gyfer Hanes Ffeilio
Aroleuo’r Datganiad Cyfalaf Diweddaraf
Erthyglau Enghreifftiol
Anodiadau Lle cafodd dogfen ei marcio neu ei ‘Hanodi’ yn ffurfiol (i dynnu sylw at fannau lle mae angen eglurhad neu lle cafodd y ddogfen ei dileu neu ei disodli), bydd dalen ‘anodi’ i’w gweld wedi’i chilosod o dan eicon plygell gan ei bod yn gysylltiedig â delwedd y brif ddogfen, ond ni ellir mo’i harchebu’n annibynnol. NODYN: Lle mae’r anodiad yn dweud ‘Dogfen wedi’i Dileu’, ni fydd y ddogfen honno ar gael i’w harchebu mwyach. Anghysondeb
Lle mae ‘Anghysondeb Penodiadau’, e.e. ffeilio bod tymor penodiad swyddog yn dod i ben pan nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau gofnod o benodiad y swyddog hwnnw, bydd y neges ganlynol yn ymddangos ar y sgriniau ‘Rydych chi wedi Dethol Manylion Cwmni’ a ‘Penodiadau Cwmni’: Anghysondeb: nid yw’r rhestr benodiadau sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cytuno â ffeiliadau’r cwmni. Cynnwys manylion cwmnïau Gogledd Iwerddon (o 5 Hydref ymlaen) Mae gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau bellach ar gael ar gyfer holl gwmnïau Gogledd Iwerddon, ac eithrio’r rhai sydd â’r blaenddodiaid canlynol: NP – Cwmni Diwydiannol/Darbodus neu Undeb Credyd yng Ngogledd Iwerddon Argaeledd Delweddau:
Dim ond o fis Hydref 2009 ymlaen y bydd Manylion Ansolfedd ar gael. Ailenwi categorïau Monitor Ledled gwasanaeth Monitor mae’r categorïau dogfennau wedi cael eu hailenwi fel a ganlyn:
Fel rhifau ffurflen newydd y dangosir ffurflenni a gaiff eu ffeilio ar ôl 1 Hydref. Enghreifftiau
Companies House Direct – Newidiadau i sgriniau a’r dull gweithio Y diwyg newydd ar gyfer Hanes Ffeilio
Aroleuo’r Datganiad Cyfalaf Diweddaraf.
Erthyglau Enghreifftiol
Anodiadau Lle cafodd dogfen ei marcio neu ei ‘Hanodi’ yn ffurfiol (i dynnu sylw at fannau lle mae angen eglurhad neu lle cafodd y ddogfen ei dileu neu ei disodli), bydd dalen ‘anodi’ i’w gweld wedi’i chilosod o dan eicon plygell gan ei bod yn gysylltiedig â delwedd y brif ddogfen, ond ni ellir mo’i harchebu’n annibynnol. NODYN: Lle mae’r anodiad yn dweud ‘Dogfen wedi’i Dileu’, ni fydd y ddogfen honno ar gael i’w harchebu mwyach. Anghysondeb
Lle mae ‘Anghysondeb Penodiadau’, e.e. ffeilio bod tymor penodiad swyddog yn dod i ben pan nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau gofnod o benodiad y swyddog hwnnw, bydd y neges ganlynol yn ymddangos ar y sgriniau ‘Rydych chi wedi Dethol Manylion Cwmni’ a ‘Penodiadau Cwmni’: Anghysondeb: nid yw’r rhestr benodiadau sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn cytuno â ffeiliadau’r cwmni. Pecyn dogfennau newydd Pecyn Cyfansoddiad Pris: £4 Delwedd, £20 Post (yn gyson â phecynnau dogfennau presennol)
Cynnwys manylion cwmnïau Gogledd Iwerddon (o 5 Hydref ymlaen) Mae gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau bellach ar gael ar gyfer holl gwmnïau Gogledd Iwerddon, ac eithrio’r rhai sydd â’r blaenddodiaid canlynol: NP – Cwmni Diwydiannol/Darbodus neu Undeb Credyd yng Ngogledd Iwerddon Argaeledd Delweddau:
Dim ond ar gyfer cwmnïau yng Ngogledd Iwerddon a gafodd eu corffori ers 1 Hydref 2009 y mae pecynnau cyfansoddiad newydd ar gael. Dim ond o fis Hydref 2009 ymlaen y bydd Manylion Ansolfedd ar gael. Yr wybodaeth newydd am swyddogion a gaiff ei dangos lle bo’n gymwys
NODYN: gellir pennu’r rhain drwy’r allbwn ‘YSG’ yn y golofn ‘Math o Benodiad’ ar y sgrin Canlyniadau Chwiliad Swyddog. Ailenwi categorïau Monitor Ledled gwasanaeth Monitor mae’r categorïau dogfennau wedi cael eu hailenwi fel a ganlyn:
Fel rhifau ffurflen newydd y dangosir ffurflenni a gaiff eu ffeilio ar ôl 1 Hydref. Enghreifftiau
|
||||||||||||||||||||||||||||||||