Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin
Amdanon Ni |
|||
|
|
Ras Ar-lein 2012 - Rhowch awr Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cefnogi’r ymgyrch cenedlaethol Rhowch Awr er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Os yw rhywun rydych chi’n ei adnabod yn methu â manteisio ar yr holl fuddion y gall y rhyngrwyd eu cynnig, Rhowch Awr o’ch amser i’w helpu i’w ddefnyddio; gallai newid ei fywyd. Gallwch ddysgu sut i wneud hynny ac addo’ch awr ar www.go-on.co.uk/giveanhour Mae dros 8 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig o hyd sydd erioed wedi gwneud galwad Skype am ddim i rywun annwyl, dilyn eu diddordebau neu gael bargen dda ar lein. Wyddech chi fod sgiliau rhyngrwyd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer 90% o swyddi, y gall yr aelwyd gyfartalog arbed hyd at £560 y flwyddyn trwy siopa a thalu biliau ar lein; a bod mwy na 25 miliwn o bobl eisoes yn defnyddio Facebook i sgwrsio gyda’u ffrindiau a’u perthnasau? Rhowch awr o’ch amser dros y Nadolig i ddangos un o’r 8.4 miliwn o bobl sydd byth wedi bod ar-lein, pa ddefnyddiol gall y we fendigedig bod. Gallwch gael canllaw i beth i’w wneud mewn awr, gwylio ffilmiau i’ch ysbrydoli wrth i bobl enwog ddangos sut maen nhw’n defnyddio’r we, a chael hyd i fwy o gymorth lleol neu leoedd lleol i wirfoddoli trwy addo awr ar www.go-on.co.uk/giveanhour.
|
||