Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Aeolodau'r Prif Fwrdd

Tim Moss – Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol

Tim Moss – Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau

Ymunodd Tim â Thŷ’r Cwmnïau yn 2012 a threuliodd yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn rhedeg yr adrannau gweithrediadau a chydymffurfio cyn symud i’r rôl Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol. Yn y rôl honno roedd ganddo bortffolio eang o waith sy’n cynnwys strategaeth busnes, polisi corfforaethol, marchnata, archwilio mewnol, cyfathrebu corfforaethol yn ogystal ag arwain y gwaith o symud i gyfeiriad cofrestr hollol electronig a thrawsffurfio’r gwasanaeth. Cymerodd Tim yr awenau fel Cofrestrydd a Prif Weithredwr ar 5 Mawrth 2012.  Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, treuliodd ddeuddeg mlynedd mewn swyddi gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae ganddo radd yn y Gwyddorau Natur o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae’n byw ar fferm yn Ne Cymru.

Ann Lewis – Cyfarwyddwraig Gweithrediadau a Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Ann Lewis – Cyfarwyddwraig Gweithrediadau a Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Ymunodd Ann â Thÿ’r Cwmnïau yn 2009, ac mae’n gyfrifol am Weithrediadau Canolog, Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Gorfodi.

Cyn ymuno â Thÿ’r Cwmnïau, roedd Ann yn Ddirprwy Gyfarwyddwraig gyda’ r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yng Nghasnewydd. Treuliodd Ann dros 30 mlynedd yn ONS yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau, ac mae ganddi brofiad helaeth o gyflwyno a rheoli strategaethau newid o bwys ym myd busnes. Mae Ann wedi rheoli amrywiol dimau mawr yn gwireddu portffolios cymhleth, ac mae’n arbenigo mewn rheolaeth weithredol a hybu newidiadau a gwelliannau effeithlonrwydd ym myd busnes.

Tim Knighton

Tim Knighton– Cyfarwyddwr Dosbarthiad Datrysiad Busnes

Mae Tim yn gyfrifol am Dechnoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Rheolaeth Newid. Mae hyn yn cynnwys datblygu/gweithredu systemau newydd, cynnal systemau presennol, a sicrhau fod rhwydwaith technegol mewnol ar gyfer systemau Tŷ’r Cwmnïau yn gryf, yn ogystal â goruchwyliaeth prosiectau/rhaglenni mawr.

Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau yn Ionawr 2007, treuliodd Tim 10 mlynedd gyda Tesco Plc mewn amrywiaeth o swyddogaethau cyllid, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth eu Canolfan Gwasanaethau ar y Cyd. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Goldman Sachs yn eu Hadran Marchnad Gyfalaf.

Gwyneth Edwards

Gwyneth Edwards - Pennaeth Cyfreithiol

Ymunodd Gwyneth â Thŷ'r Cwmnïau ym mis Tachwedd, 1999.  Mae hi’n arwain y Tîm Cyfreithiol ac yn cynghori Tŷ’r Cwmnïau ar ddehongliad a defnydd ymarferol Deddf Cwmnïau, ynghyd â darpariaethau eraill.  Yn ogystal â hyn, mae hi’n cynghori ar berfformiad o ddyletswyddau statudol y Cofrestrydd ac unrhyw faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar waith y sefydliad.

Cylch Gwaith (PDF 93K)

Siart Trefniadol Tŷ’r Cwmnïau (PDF 82K)