|
|
v
Diwygiad i Orchymyn Cronfa Fasnachu Tŷ’r Cwmnïau Pan ddaw Deddf Cwmnïau 2006 i rym ar 1 Hydref 2009, daw Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon yn rhan o gyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau. Ar 26 Awst 2008, agorodd y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r nod o greu Cofrestrfa Gwmnïau ar gyfer y DU gyfan drwy integreiddio Cofrestrfa Gogledd Iwerddon â Thŷ’r Cwmnïau, a fyddai’n golygu diwygio Gorchymyn Cronfa Fasnachu Tŷ’r Cwmnïau i adlewyrchu’r newid. Ni wrthwynebwyd yr ymgynghoriad ac fe gyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth. Mae’r dogfen ymgynghoriad ac ymateb y llywodraeth ar gael ar wefan BIS. |
||